Mae’n gwbl naturiol i ni boeni am bobl Affganistan.

Mae’n anodd dychmygu’r ofn a’r anobaith all arwain dynion ifanc i ddisgyn i’w marwolaeth oddi ar adenydd awyren uwchben Kabul.

Byddwn, wrth gwrs, yn gofidio am y rheiny sy’n ceisio gadael y wlad. Merched sydd eisiau’r hawl i weithio. Dynion hoyw sy’n ofni cael eu lladd. Pawb a weithiodd gyda Llywodraethau Affganistan, yr Unol Daleithiau a’r Deyrnas Unedig.