Ar ôl i’r dyn ifanc afiach o Plymouth saethu pump o bobl ddiniwed yn farw, ac wedyn lladd ei hun, mae ’na drafod mawr wedi bod yn y wasg, y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau torfol am ‘fudiad’ yr ‘incels’.

Dyn sy’n gorfod byw heb bartner na pherthynas rywiol yw incel, am fod pob menyw yn ei wrthod.

Mae’n fudiad a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau ac mae casineb a dicter rhai sy’n uniaethu â’r mudiad eisoes wedi arwain at fwy nag un gyflafan waedlyd a marwol yno.