‘Fama, yli.’

Dwi’n edrych i fyny, ac yn gweld Nain yn ymestyn yn bell i mewn i’r mieri am y cnwd o fwyar duon sy’n cuddiad yn y dail. Mae hi’n eu pigo nhw, ac yn eu rhoi yn y bocs Walls Ice Cream sydd yn ei llaw arall. ‘Mae ’na lwythi. Be wnawn ni efo nhw i gyd?’