Mae yna sawl peth trist am yr adroddiad ynglŷn â hiliaeth honedig yng Nghyngor y Celfyddydau ac Amgueddfa Cymru.

Un ohonyn nhw, wrth gwrs, ydi’r prif gasgliad: fod hiliaeth wrth galon gwaith y cyrff a fod artistiaid ac eraill o leiafrifoedd Du a Lliw yn cael eu heithrio oherwydd hynny; fod y syniad o Gymreictod yn y ddau gorff yn dueddol o olygu ‘gwyn’.