Bron 35 mlynedd yn ôl, mi gafodd fy mam ei rhybuddio gan arbenigwr meddygol mai dim ond chwech mis oedd ganddi ar ôl i fyw; canlyniad i ganser yr ysgyfaint, un o’r clefydau mwya’ marwol a mwya’ milain.

Mae mam yn fyw o hyd ond, er hynny, mi faswn i’n cefnogi’r mesur i roi’r gorau i erlyn pobol sy’n helpu eraill i ddiweddu eu bywydau eu hunain – eraill sydd â chwe mis neu lai i fyw ac sydd wirioneddol eisio gadael y byd yn fwy esmwyth.