A ddylen ni gladdu Senedd Cymru ac anghofio am ddatganoli? Dyma’r cwestiwn mawr sy’n cael ei drafod ymhlith aelodau’r Blaid Geidwadol yng Nghymru…

Mae cynghorydd sir Ceidwadol yn Sir Benfro yn cyhuddo aelodau o’i blaid o “hyrwyddo’u gyrfaoedd eu hunain” drwy ymgyrchu dros ddiddymu’r Senedd.

Yn ôl y Cynghorydd Aled Thomas, sydd wedi bod yn siarad gyda Bwrlwm, dylai’r Ceidwadwyr sy’n codi stŵr “adael y blaid ac ymuno gydag Abolish”.