Gan fod pethau’n teimlo braidd yn ddigalon dwi am fynd â chi i adeg brafiach – bythefnos yn ôl. Ges i bum noson braf iawn yn Norwy; gwestai hyfryd, êl da a bwyd rhagorol. Mae gen i bellach gryn flas am garw Llychlyn ac aeron lingon ond dwi ddim yn meddwl y brysia’i i roi ‘nannedd mewn morfil eto. Er, go brin y dychwela’ i’n fuan – mae’n wlad andros o ddrud a dwi ddim yn meddwl yr argyhoedda’ i’r Golygydd roi ail golofn dros dro imi dalu am y daith.