Mae tîm criced Morgannwg wedi bod yn dathlu ennill Cwpan Royal London ar ôl curo Durham o 58 rhediad yn Trent Bridge yn Nottingham.

Dyma’r tro cyntaf iddyn nhw ennill cwpan undydd, a’r tro cyntaf iddyn nhw ennill tlws ers 2004 pan enillon nhw’r gynghrair undydd am yr ail waith mewn tri thymor.

Dim ond Andrew Salter a Michael Hogan oedd ar ôl o’r tîm gyrhaeddodd rownd derfynol y gystadleuaeth hon yn 2013, pan gollon nhw yn erbyn Swydd Nottingham.