Roedd yna ryw deimlad gwyliau haf i’r gwylio ar S4C yr wythnos ddiwethaf. Nid oes llawer o gyfresi newydd a dw i’n dychmygu mai godro’r Eisteddfod AmGen am gynnwys y gwnânt am yr wythnosau nesaf, cyn ein difetha gyda deunydd newydd yn yr Hydref.