Dwi’n berson weddol hawdd fy mhlesio: paned o goffi da mewn mwg sy’n teimlo’n braf yn fy llaw, sanau cynnes, hitio cyfanswm crwn ar y pwmp petrol neu yn y gampfa. Dwi’n licio meddwl mod i’n mwynhau pleserau syml y byd – ond ambell waith mi ga’i chwilen yn fy mhen a dwi’n gosod nod gwirion o uchelgeisiol i mi fy hun.