“Well – you’ve definitely got a book” – geiriau hir-ddisgwyliedig, oedd yn sioc i’w clywed, yr un fath. Achos mae yna rywbeth wedi bod yn corddi ers tro, ddarllennydd – rhyw gwcw yn y nyth, yn gwthio’n foliog ar ymylon y to do list. A dyna gadarnhad, dros zoom (ble arall) yr wythnos hon: mae digon o sbarc, a digon o eiriau ar y sgrîn, bod siâp llyfr wedi ymddangos ohonynt. Mae gen i waith i’w wneud.
Sy’n golygu mai hon fydd fy ngholofn olaf. Anfantais anochel ildio lle i’r gwcw yw bod pethau gwerthfawr eraill yn powlio allan o’r nyth. Felly diolch iti, ddarllenydd, am bopeth – mae wedi bod yn bleser rhannu hefo ti cyhyd. Dwi’n rili gobeithio bo ti’n gallu hedfan.
Mae hi wedi bod yn dair blynedd selog o sgwennu – a gydag eithriad y golofn gynta (lle wnes i bechu cwpwl o bobol wrth geisio hawlio swydd yr Archdderwydd heb unrhyw fath o gymhwyster), mae’r ymateb wedi bod mor gynnes. Yn wyrthiol, dydi’r Orsedd ddim wedi rhoi hit arna i chwaith (hyd yn hyn).
Braint fawr yw dy fod wedi gwrando, ddarllenydd, ac wedi ymateb mor ffeind – rwyt ti wedi bod yn gwmpeini ardderchog, trwy rai o’n hamserau mwyaf tymhestlog. Mae’n swnio’n boncers, siŵr, ond dwi wedi teimlo dy gefnogaeth o bell, a bu yn gysur mawr i fi – yn enwedig wrth i mi sgrifennu o fy atig yn ystod cyfnod ynysig a thorcalonnus i ni gyd. Dwi wedi mwynhau trio gwneud iti wenu, i rolio dy lygaid, i fyfyrio ac, uwchben popeth arall, i fod yn garedicach, yn ddewrach a mwy gwirion yn dy fywyd bob dydd. Dwi’n gobeithio y byddi di, yn fy absenoldeb, yn parhau efo’r gorchwyl hwnnw.
Rwyt ti wedi fy arbed rhag diflastod hefyd: tria di sgrifennu dros gant o golofnau tra’n eistedd ar y soffa yn ail-wylio goreuon Caryl ar youtube ac yfed pinot grigio. Roedd angen pwnc – angen antur – angen rhywbeth i’w rannu: ac felly dwi’n gorffen y golofn yma’n berson llawer cyfoethocach o dy herwydd di. “Wel, mi wneith stori dda, ta beth” – mae’r golofn wedi bod yn esgus i fentro, a thrwy hynny, gwneud cyfeillion newydd, magu hyder ac ehangu fy ngorwelion. Cyn y pandemig, baglu o’r creisis diweddara i’r panig nesa oeddwn i: fe roist ti gyfle i fi eistedd bob bore Llun a cheisio ffeindio ystyr yn y mwrllwch – i ffeindio ffurf, ffeindio’r digri, y difyr a’r dwfn ym mywyd bob dydd.
A bod yn onest, prin dwi’n nabod y ferch oedd yn syllu ar sgrin wen yn oedi cyn teipio, nôl yn 2020. Wrth gwrs, wrth i mi geisio gwneud sens o’r siwrne honno yn ddiweddar, dw i wedi troi at yr archif. Yn yr achos hwn, nid llyfr neu lythyr sydd wedi fy nenu – ond arteffact sgleiniog, llawn gleiniau a gemau – cadwyn seremonïol mewn bocs pren hardd. Arni mae brawddeg lachar sy’n taro fel cord dewr, agored pan dwi’n ei chlywed, ac yn gwneud i mi deimlo’n obeithiol. Pan fydd y golofn hon yn cael ei hargraffu, eistedd fydda i mewn stiwdio datŵs yng ngorllewin yn ddinas, yn cael y frawddeg honno wedi ei hargraffu arnaf innau – fel atgoffeb ac ysbrydoliaeth.
Ar y gadwyn, mewn geiriau aur ar gefndir enamel, saif hen arwyddair y ddinas – ac am y bennod nesaf, fy arwyddair innau hefyd. Dw i ddim am i chi ei sgriffinio ar eich cyrff – ond y gobaith yw bod rhai ohonoch yn ei chymryd at eich calon yr un fath: “Deffro, Mae’n Ddydd”.
GAIR GAN GOLWG: Diolch i Sara am gadw colofn mor ddifyr a phob lwc gyda’r llyfr.