Yn ei golofn y tro hwn mae’r Ymgynghorydd Cwnsela Arbenigol, Wynford Ellis Owen, yn rhoi cyngor i wraig sy’n pendroni’r syniad o ddweud y gwir wrth ei phlant am eu tad…

Annwyl Wynford

Rydw i wedi bod yn cadw cyfrinach oddi wrth ein dau blentyn – mab 13 oed a merch 16 oed – sef bod eu tad wedi gwastraffu mynydd o arian yn gamblo’n drwm, a’n bod ni fel teulu mewn trafferthion dybryd. Mae o bellach, diolch i G.A. (Gamblers Anonymous), wedi dechrau mynychu cyfarfodydd wyneb-yn-wyneb, ac yn adfer. Ond mae’r ferch yn synhwyro bod rhywbeth o’i le ac wedi dechrau gofyn cwestiynau. Dw i eisiau dweud y gwir wrthi am ei thad ond yn ofni ei bod yn rhy ifanc, ac y byddai’r stigma a’r llanast ariannol yr ydym ynddo fel teulu yn effeithio’n negyddol arni hi a’i brawd. Beth ddylwn i wneud?

Diolch am gysylltu. Dyma ddeilema go-iawn. A dyma ychydig o awgrymiadau.

Flynyddoedd yn ôl wrth adfer, gofynnwyd i mi rannu fy nghyfrinachau gyda merch ifanc o’r enw Sonja Waterschoot, oedd yn 16 oed. Wel, ro’n i mor flin! Rhag cywilydd iddyn nhw’n gofyn i mi, yn ddyn 44 oed, i rannu fy nghyfrinachau dyfnaf gyda merch 16 oed oedd yn ddigon ifanc i fod yn blentyn i mi! Ond wyddoch chi be? Sonja Waterschoot, neu Sonji-ponji fel ro’n i’n ei galw hi, ddoth yn un o’m hathrawesau gorau erioed. Fe ddysgodd i mi beth oedd hi’n ei olygu i fod yn dad go-iawn i fy mhlant a hefyd beth oedd hi’n ei olygu i fod yn aelod llawn o’r hil ddynol. Pan ddois i sgwennu fy nghyfres deledu, Porc Peis Bach ar gyfer S4C flynyddoedd yn ddiweddarach, enw athrawes Kenneth Robert Parry, arwr y gyfres, oedd ‘Miss Waterschoot’ – o barch i Sonji-ponji.

Fe agorodd fy sesiynau â hi ddrws i bethau mwy – ac i mi sylweddoli nad oeddwn i wedi cynnwys fy mhlant i fy hun yn y penderfyniadau pwysig roedden ni wedi’u gwneud fel teulu. Er enghraifft, fe benderfynon ni symud o’r gogledd i’r de heb ymgynghori o gwbl â Bethan a Rwth, ein merched naw ac wyth oed ar y pryd.

O hynny ymlaen, fe ddechreuon ni gynnal cyfarfodydd teulu, unwaith bob wythnos. Dim ond hanner awr. Ond yn ystod yr hanner awr yna roedd pob un aelod o’r teulu yn ei dro yn cael cyfle i ddweud beth oedd yn mynd ar eu nerfau, beth oedd yn eu poeni, ac unrhyw bryder arall oedd ganddyn nhw ynglŷn â sut roedd y teulu’n gweithredu neu ddim yn gweithredu fel uned. Doedd beirniadaeth o unrhyw fath ddim yn cael ei ganiatáu – na dial, na dadlau’n ôl, na cheisio cyfiawnhau unrhyw beth, na gwneud pethau’n well. Dyna oedd y rheolau.

Fe ddaeth y cyfarfod teulu hwn â ni’n agosach o lawer at ein gilydd fel teulu, ac mae’n rhywbeth y byddwn i’n awgrymu i chi wneud. Mae’n bwysig mewn unrhyw deulu bod pawb yn cael cyfle i ddweud eu dweud heb gael eu cosbi o gwbl am y dweud hwnnw. Fe ddysgodd y cyfarfodydd teulu inni sut i garu’n well a bod yn fwy tosturiol, goddefgar a chydymdeimladol tuag at ein gilydd. Fe wnaethon nhw gyfrannu, hefyd, yn fwy na dim, at chwalu’r tair rheol ynfyd sy’n cynnal pob teulu lle mae yna broblemau gyda dibyniaeth neu salwch meddwl.

Y tair rheol ynfyd

Y cyntaf yw: does neb yn siarad am y broblem. Mae pawb yn gwybod ei fod o yna, fel eliffant pinc yng nghanol y stafell, ond mae pawb yn cerdded o’i gwmpas fel ar blisgyn wyau, yn smalio nad ydy’r broblem ddim yn bod.

Does neb, chwaith, yn ‘teimlo’ mewn teulu lle mae’r problemau yma. “Mam, pam ydach chi’n crïo?” “Tydw i ddim…” yn rhwbio’i llygaid, “… rhywbeth yn fy llygad sgin i…”

“Dad, pam ydach chi’n flin?”

“Tydw i ddim yn flin, hogyn.” Yn gweiddi’n bendant, flin: “Tydw i ddim, reit?”

A does neb yn cael meddwl, chwaith. Oherwydd byddai meddwl yn golygu meddwl: “Hei, tydi petha’ ddim yn iawn yn fa’ma, mae yn rhaid i rwbath newid.”

Dyna’r tair rheol: does neb yn siarad, neb yn teimlo, a neb yn meddwl.

Y datrysiad

Er mwyn tynnu’r teulu allan o’r tywyllwch i oleuni adferiad mae’n rhaid newid y rheolau yma.

Felly, rhowch ganiatâd i chi’ch hun siarad yn agored am y broblem. Oes yna deulu unrhyw le yng Nghymru bellach sydd ddim yn nabod rhywun – un ai yn y teulu agos, y teulu estynedig, neu yn y gymdeithas o gwmpas – sy’n dioddef o’r problemau hyn? Siaradwch amdano heb euogrwydd na chywilydd. Daliwch eich pen i fyny â balchder.

Rhowch ganiatâd i chi’ch hun deimlo be’r ydach chi’n ei deimlo – trist, hapus, cenfigennus, beth bynnag. A rhowch ganiatâd i chi’ch hun feddwl be ydach chi’n feddwl hefyd. Peidiwch â barnu chi’ch hunan.

Os medrwch newid y tair rheol yna, mi fydd eich teulu chi – a’ch plant yn arbennig – gymaint, gymaint yn iachach.

Pob lwc i chi fel teulu – a llongyfarchiadau mawr i’r gŵr am wneud rhywbeth am ei gamblo problemus.  Atgoffwch o nad yw’r daith byth yn un hawdd. Ond iddo gofio, mai’r ymlafnio sy’n brifo. Does byth ddim synnwyr o fethiant nac anesmwythder mewn diogi corfforol, ysbrydol, na meddyliol; ond gyda phob gweithred a chyda phob ymdrech, mae rhywun yn ymwybodol nid o gryfder ond o wendid – o leiaf ar y dechrau.  Ac mae hynny’n arwydd o fywyd; o dyfiant ysbrydol. Y rheswm am hyn yw bod y weithred a’r ymlafnio yn gyson â’r Gwirionedd; a phan mae’r Gwirionedd yn ymddangos – fel y gwna ymhob achlysur o’r fath – mae pob camgymeriad neu anghytgord o reidrwydd yn diflannu wedyn. Yn y dimensiwn ysbrydol, pan ar ein gwannaf – yn baradocsaidd – rydym ar ein cryfaf.