Poblogrwydd yr artist Syr Kyffin Williams oedd testun y ddarlith flynyddol amdano’r wythnos hon yn Llundain. Ac yma mae Mererid Wigley, sy’n gweithio i’r cwmni sy’n gwerthu’r lluniau, yn trafod y dynfa oesol at baentiadau olew un o artistiaid enwocaf Cymru…
Yn Ysgol Highgate, lle bu Syr Kyffin Williams yn dysgu celf am dros 30 mlynedd, roedd y siaradwr gwadd, yr arwerthwr Ben Rogers Jones, yn trafod apêl yr arlunydd enwog o Langefni a pham bod casglwyr newydd yn prynu’i waith.
Mae cwmni arwerthwyr Rogers Jones yn adnabyddus am werthu celf a henebion Cymreig, ac mae ganddynt dair sêl arbenigol bob blwyddyn, ‘Yr Arwerthiant Cymreig’. Dydy hi ddim yn syndod mai paentiadau olew Syr Kyffin Williams sy’n gyson yn cyrraedd y prisiau uchaf. Cwmni Rogers Jones hefyd fu’n gyfrifol am brisio ystâd Kyffin pan fu farw yn 2006, gan ddelio gyda dros 1,000 o ddarnau oedd yn cael eu rhoi i’r Llyfrgell Genedlaethol.
“Dwi’n siŵr fy mod i wedi gwerthu mwy o ‘Kyffins’ na neb!” meddai Ben Rogers Jones.
“Yn y deng mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gwerthu dros 100 o baentiadau olew a thua 200 o ddarluniau ar bapur, a llawer mwy, gan Syr Kyffin. Yn y cyfnod hwnnw, fe dorron ni record am y pris arwerthiant uchaf erioed am olew gan Kyffin, (£62,000), llun dyfrlliw (£18,000), a phrint (£3,000) sy’n dangos cryfder y farchnad bresennol.”
Prisiau Ocsiwn yn tyfu o £1,000 i £62,000
Dechreuodd Kyffin werthu ei baentiadau yn y 1940au pan roedd yn dysgu yn Ysgol Highgate. Ond nid tan yr 1980au y dechreuodd darluniau Kyffin ymddangos yn rheolaidd mewn arwerthiannau. Mae cofnodion yn dangos bod y prisiau rhwng tua £1,000 a £2,000 hyd nes i baentiad olew o’r enw ‘Welsh Blacks’ werthu am £5,200 yn Bonhams ym 1992.
Nid tan ddiwedd y degawd hwnnw a dechrau’r nesaf y dechreuodd prisiau godi’n sylweddol. Ym mis Mehefin 2005, flwyddyn cyn i Kyffin farw, roedd gan Sotheby’s arwerthiant lle gwerthwyd dau lun gan Kyffin am £26,000 a £34,000, record newydd. Yn ddiweddarach yn 2005, gwerthwyd un am £48,000 yn Christie’s.
Yn y flwyddyn y bu farw Kyffin, blwyddyn lle bu’n brwydro yn erbyn canser, roedd olewau’n cyrraedd y math yma o brisiau’n gyson. Roedd ei luniau ar bapur hefyd wedi codi’n sydyn. Ond yn 2008, fe arafodd pethau, ac roedd prisiau yn weddol sefydlog tan 2013, pan werthodd cwmni Rogers Jones baentiad olew o fferm Penrhyn Du ar Ynys Môn am £50,000, ac yna un arall yn 2016, o gyfres o ffermwyr yn ymddangos dros ben mynydd, am £60,000.
O hynny ymlaen, roedd prisiau yn ymddangos ar gynnydd eto, ac yn arbennig yn ystod y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r prisiau uchaf erioed am olew Kyffin, llun dyfrlliw a phrint i gyd wedi bod yn y tair blynedd ddiwethaf, a’r tri wedi’u gwerthu yn Yr Arwerthiant Cymreig gan Rogers Jones.
Tirlun a phobl Kyffin
Ond pam bod cael darn o waith Kyffin ar y wal yn rhywbeth mor apelgar i brynwyr? Beth yn union yw’r dynfa barhaus a pham bod prisiau wedi bywiogi eto?
Mae darluniau olew Kyffin yn gwbl ddigamsyniol, gyda’r paent wedi’i daenu ymlaen yn drwchus gyda chyllell balet.
Yn ôl Phil Evans, sydd yn gasglwr celf, y ffordd mae’n dogfennu’r tirlun a’i phobl sydd yn arbennig. “Mae Kyffin yn portreadu tirwedd Cymru a bywyd gwledig sydd efallai’n dirywio nawr. Mae yna elfen gref o hiraeth yn narluniau’r ffermwyr, y cŵn defaid, y cymeriadau yn y portreadau, ac yna, wel, ry’n ni’n gwybod pa mor boblogaidd yw Eryri erbyn hyn. Mae tirwedd Eryri, Ynys Môn, yr arfordir… rwy’n meddwl ei fod yn dod â Chymru’n fyw.”
Er nad ydi mynyddoedd Eryri at ddant pob un, mae modd gwerthfawrogi ei luniau, yn ôl Robert Meyrick, cyn-bennaeth adran Gelf Prifysgol Aberystwyth.
“Dydw i ddim yn hoffi’r term ‘diamser’ [timeless], achos dw i ddim yn meddwl bod unrhyw beth byth yn… ond mae yna deimlad hiraethus yn ei baentiadau o fyd sydd ddim yn newid. Does byth ceir, gorchuddion plastig, cotiau glaw, cerbydau fferm neu beilonau yn ymddangos yn ei waith. Ond roedd yn adnabod y tir a’r bobl fel cefn ei law, felly mae yna wirionedd a gonestrwydd amdanyn nhw.”
Mae’r dirwedd a’r hyn mae’n ei gynrychioli yn bwysig i ddeall ffenomenon Kyffin Williams, yn ôl yr awdur celf, Peter Lord.
“Mae’r lluniau’n cyflwyno darlun o hunaniaeth genedlaethol sy’n glir a digyfaddawd. Mae parhad oesol mynyddoedd Eryri wedi cael ei ecsbloetio erioed fel metaffor o wydnwch craidd y Cymry…
“Mae ffenomen Kyffin Williams yn adlewyrchu’r berthynas ddryslyd rhwng y syniad o Gymru a’r realiti byd-eang homogenaidd sydd bron â’i ddifa… Dydy bod yn berchen ar lun gan Kyffin ddim yn dangos bod atyniad uniongyrchol at y tirlun ei hun yn unig, ond yn deyrngarwch at syniad – at yr hyn mae’r dirwedd yn ei gynrychioli i ymwybyddiaeth ddiwylliannol Gymreig.
“Mae trymder cymaint o’r lluniau’n adlewyrchu’r ffaith bod yr ymwybyddiaeth hon, wrth gwrs, wedi bod dan fygythiad dros ganrifoedd lawer, wedi’i effeithio gan wleidyddiaeth, trwy ddiwydianeiddio, trwy ddad-ddiwydianeiddio, trwy bobl yn mudo a thrwy newid iaith.”
“Kyffin yn frand”
Mae yna dri ateb i’r cwestiwn ‘pam bod Kyffin yn gwerthu cystal?’, yn ôl Ben Rogers Jones.
“Mae ei luniau’n apelio, wrth gwrs, ond rhan o’r apêl o brynu ei luniau yw’r dyn ei hun, stori ei fywyd, sy’n ymddangos fel un ag elfen gref o dynged. Roedd i fod i fynd i’r fyddin, ond fe gafodd ddiagnosis o epilepsi. Y diagnosis hwn, yn ei eiriau ef ei hun, oedd ‘ei anffawd orau’ achos yn sgil ei salwch, fe drodd at gelf, a hynny’n obsesiynol. Arweiniodd hyn at iselder ac unigrwydd, ac mae’r holl emosiynau hyn i’w gweld mewn paent ar gynfas.”
Yn drydydd, mae’r arwerthwr yn credu bod brand Kyffin, gyda’r llofnod ‘KW’ a’r fframiau trwchus, yn bwysig tu hwnt i’w lwyddiant.
“Roedd Kyffin yn arloeswr yn hyn o beth. Fo oedd yr arlunydd Cymreig cyntaf i gael brand a delwedd sydd mor bwysig i’r farchnad y dyddiau hyn. Mae angen i bob artist, beth bynnag fo’i gyfrwng, reoli’r tair elfen hyn os am fod yn llwyddiannus y dyddiau yma. Cyfleu eu stori yn dda, ei gwneud yn ddiddorol, curadu eu delwedd a’u brand fel eu bod yn hawdd eu hadnabod ac yn sefyll allan mewn marchnad sy’n orlawn. Roedd Kyffin yn rhagori ar hyn.”
Mae Robert Meyrick yn cytuno. “Roedd Kyffin yn sicr yn frand. Rydych chi’n gwybod beth rydych chi’n gael. Fel arlunydd, fe lywiodd yn llwyddiannus rhwng y Gymru Gymraeg a’r Gymru Saesneg.”
A’r brand hwnnw sydd i gyfri pam ei bod hi’n dal yn uchelgais i lawer fod yn berchen ar lun Kyffin Williams, yn ôl Ben Rogers Jones. “Mae pawb wedi clywed yr hen gellwair am y ‘Crachach Cymraeg’ oedd yn berchen tŷ ym Mhontcanna yng Nghaerdydd, swydd yn y cyfryngau, Volvo tu allan a Kyffin ar y wal. Mae’n bach o gliché ac efallai bod yna ryw elfen o wirionedd ynddo, ond dim cymaint â byse rhywun yn ei feddwl. Dw i’n gweld bod llawer o’m prynwyr yn teimlo’n angerddol am waith Kyffin a ddim yn edrych am symbol o statws. Ond mae brand Kyffin yn ddeniadol hefyd.”
Mae pethau wedi newid, yn ôl Phil Evans, a’r cellwair wedi crebachu. “Rydych chi bob amser yn mynd i gael bach o hwnna, ond dw i ddim yn meddwl ei fod cynddrwg nawr ag oedd hi. Mae pobl jyst yn hoffi’i waith, gwead y paent ac ati. Mae gen i brint brynais i yn ddiweddar o ffermwr yn cerdded drwy’r eira, ac mae’r unigedd yna yn y lluniau. Mae jyst yn crynhoi gwaith Kyffin, dw i’n credu, yr hiraeth hwnnw.”
Printiau’n denu to newydd
Mae pwysigrwydd y brand wedi galluogi gwaith Kyffin i aros ym meddyliau’r cyhoedd, ac mae yna genhedlaeth iau newydd bellach â diddordeb yng ngwaith yr arlunydd, yn ôl Ben Rogers Jones.
“Mae’r awydd am lun Kyffin wedi’i drosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf sy’n prynu oherwydd iddyn nhw dyfu i fyny gyda nhw ar wal eu rhieni neu oherwydd na allai eu rhieni eu fforddio, ond eu bod eisiau un.”
Mae printiau Kyffin yn arbennig wedi dod yn ffasiynol iawn ac yn gwerthu’n dda.
“Mawredd y printiau yw bod yna gynulleidfa sydd heb efallai’r arian i brynu paentiad olew neu ddyfrlliw. Maent yn apelio at y to iau lle mae gweithwyr proffesiynol ifanc, sydd efallai dan ddylanwad eu rhieni, yn dod i mewn i’r farchnad gydag awydd i brynu un gwreiddiol rhyw ddydd ac yn y pen draw, gobeithio, un olew.”
Ond o ran buddsoddi, ydi’r farchnad yn mynd i barhau’n gryf i waith Kyffin?
“Mae’n anodd dweud,” meddai’r arwerthwr. “Mae yna economi i feddwl amdano, a’r cwestiwn: ‘a fydd gan y genhedlaeth nesaf hyd yn oed yr incwm i wario ar gelf?’
“Ond dw i’n meddwl bod gennym ni well ymwybyddiaeth o’n hunaniaeth genedlaethol yng Nghymru erbyn hyn ac rwy’n meddwl bydd Kyffin yn parhau i fod yn rhan bwysig o’n treftadaeth artistig. Fy nheimlad i ydi y bydd hi dal yn uchelgais i fod yn berchen ar Kyffin.”