Daeth Rishi Sunak a llu o Geidwadwyr draw i Landudno. Ac er mai’r amaethwyr aeth â’r penawdau, roedd y Torïaid hefyd yn trafod yr economi, y Gwasanaeth Iechyd, a dyfodol y Stryd Fawr…

Tros y penwythnos roedd y Ceidwadwyr Cymreig yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yn nhref Llandudno ar arfordir y gogledd, a mawr fu’r sylw wrth i Rishi Sunak sefyll gyda chriw mawr o ffermwyr Cymru.