Colli 31-7 oedd hanes y Cymry draw yn Nulyn, a dyma oedd un ar ddegfed buddugoliaeth o’r bron y Gwyddelod yn y Chwe Gwlad.

Seimon Williams sy’n edrych ar y gwersi i garfan ifanc Gatland, ac yn trafod yr argyfwng ariannol sy’n wynebu’r rhanbarthau…

“Doedd y sgorfwrdd ar ddiwedd y gêm ddim yn adlewyrchiad teg o’n hymdrech ni.” Dyna farn yr hyfforddwr Warren Gatland ar ôl i Gymru golli o 31-7 yn Stadiwm Aviva ddydd Sadwrn diwethaf.