‘Teigr yn y Castell’ yw enw arddangosfa’r artist Daniel Trivedy sydd newydd agor yng Nghastell Powis yn y Trallwng, ac mae yn cyfleu ei ymateb i gysylltiadau trefedigaethol y lle gydag India.

Mae Castell Powis yn gartref i tua 1,000 o arteffactau a gafodd eu cymryd o is-gyfandir India gan genedlaethau o’r teulu Clive.