Trist oedd gweld gorymdaith amaethwyr ar strydoedd Aberystwyth ddoe. Trist oherwydd bod y sefyllfa yn adlewyrchiad o fethiant y ddwy ochr i’r anghydfod i ganfod datrysiad trwy drafod yn synhwyrol a chymedrol.

Peidier anghofio bod dyfodol ein hiaith yng nghlwm yn nyfodol economi cefn gwlad. Mae’n rhaid canfod atebion sy’n boddhau amaethwyr, y naturiaethwyr a’r llwyodraethwyr. Trafod a chymodi yw’r unig ateb i’r broblem ddyrys hon.