Dw i ddim yn siŵr pwy sy’n mynd i sgrifennu’r golofn yma. Bydd raid i chi faddau i fi, mae hon wedi bod yn un o’r wythnosau yna lle dwi’n teimlo fel achos o bersonoliaeth hollt. Dw i wedi teithio o fod yn gadeirydd pwyllgor llywodraethol i powerlifter, o fynychwraig cynadleddau polisi iaith a chymdeithaseg i gapten tîm rhaglen gomedi ar Radio Cymru – gyda pit stop fel arbenigrwaig llyfrau prin. Mae’r daith o’r naill i’r llall wedi rhoi rhyw whiplash o fath i fi, wrth i