Hoffwn weld Cymru yn yr Undeb Ewropeaidd ond dwi’n amau’n fawr iawn y gwelwn y fath ddatblygiad yn y dyfodol agos.

Er hynny gallwn fod yn ddiolchgar bod daearyddiaeth yn fwy sefydlog nag aelodaeth i sefydliadau gwleidyddol; rhag inni anghofio, mae Cymru yn Ewrop o hyd!

Ond nawr bod ni tu allan i’r Undeb Ewropeaidd, shwt berthynas hoffwn ei chael efo gweddill Ewrop?