Mae Aelod Seneddol oedd ar y Pwyllgor Materion Cymreig wnaeth holi swyddogion Tata am eu penderfyniad i gau ffwrneisi yng ngwaith dur Port Talbot, yn credu bod modd gwneud mwy i helpu’r gweithlu.

Yn ôl Ben Lake mae cau’r ffwrneisi a rhoi 2,800 o weithwyr ar y clwt yn “benderfyniad ffôl ac anffodus iawn”.

Ym mis Ionawr daeth y cyhoeddiad gan gwmni Tata eu bod yn cau eu ffwrneisi ym Mhort Talbot cyn diwedd y flwyddyn, a’u bod yn bwriadu eu disodli gyda dulliau cynhyrchu fwy gwyrdd.