Doeddwn i ddim eisiau trafod rygbi’r wythnos yma. Rydw i’n gwybod bod lot ohonoch chi yn ei fwynhau yn fawr iawn a ddim eisiau clywed fi yn cwyno am fy rhwystredigaeth wrth wylio’r gemau. Wna i ddim ond dweud bod y rheiny sy’n poeni bod dynion ddim yn trafod pethau ymysg ei gilydd yn ddigon, erioed wedi gweld dau bac o flaenwyr rhyngwladol yn paratoi am sgrym.