Mae’r wythnos wedi dod ble mae Feral Monster ar fin croesawu ei chynulleidfaoedd cyntaf. Dyma’r sioe gerdd rwy’n ei chyfarwyddo ar gyfer National Theatre Wales sydd ymlaen yn Theatr y Sherman yng Nghaerdydd o heddiw tan 24 Chwefror, cyn mynd ar daith ledled Cymru.

Rwy’n yfed gormod o goffi, bwyta melysion sur sy’n troi eich ceg ben i weired gyda’u blas, ac yn archebu bwyd mewn sydd wir ddim yn ffitio mewn i fy nghyllid wythnosol.