Mae hi’n ystrydeb nad ydy Brwydr yr Iaith byth wedi ei hennill, a bod angen swnian byth a hefyd er mwyn cael parch. Mae eisio gras ac amynedd… ond fel ddywedodd Dewi, cofiwch y pethau bychain.

Ac wrth i dechnoleg ddatblygu sy’n golygu bod cyfrifiadur yn gallu gwneud gwaith go-lew o gyfieithu o’r Saesneg i’r Gymraeg, mae cwmnïau wedi dechrau gweld eu cyfle i gefnu ar y Gymraeg.

Cwmni sy’n gwerthu nwy a thrydan o bencadlys ym Mryste yw OVO Energy.