Mae’n bosib iawn fy mod i ar fin dweud rhywbeth sydd am hollti’r genedl! Ond wyddoch chi be’, does gen i ddim llawer i’w ddweud wrth anifeiliaid anwes. A dw i’n sylweddoli fy mod i mewn lleiafrif yn dweud hynny. Wedi’r cwbl, mae’n debyg fod gan tua 57% o bobl y wlad yma ryw greadur neu’i gilydd yn byw efo nhw.