Rydw i’n edmygu cefnogwyr pêl-droed yr Almaen. Maen nhw i weld yn deall bod clwb pêl-droed yn rhywbeth mwy na thîm i wylio ar deledu ac yn dathlu eu buddugoliaethau. Iddyn nhw, mae’r clwb yn adlewyrchu eu personoliaethau ac yn cynrychioli eu moesau, eu gwleidyddiaeth, a’u hunaniaeth.