Pur anaml yn y Gymru ddatganoledig y mae anniddigrwydd wedi arwain at brotestio ar lefel fawr, ond gyda’r ffermwyr ar godi’n erbyn cynlluniau i gwtogi ar faint o’u tir all gael ei ddefnyddio at ddiben amaeth, hwyrach fod hynny am newid. Mae ganddynt le i gwyno am y cynlluniau hyn, a hawl i’w protestio. Ar eu ffurf bresennol gallent fod yn fygythiad mawr i’n diwydiant ffermio, ar adeg y mae cynaliadwyedd bwyd yn fater pwysig, gan hefyd danseilio cymunedau cefn gwlad, ac yn y pen draw eu diwydiant