Rydw i wedi bod gartre yn Llundain am dridiau ac alla i ddim pwysleisio digon y rhyddhad rwy’n teimlo wrth beidio gorfod mynd ar drên nôl i Gaerdydd ar nos Sul, a chael aros gartre am fwy na dau ddiwrnod ar y tro. Rydw i wedi cael wythnos o fynd yn hollol wyllt yn y gegin, gyda phob pryd o fwyd yn rhywbeth rydw i wedi coginio yn ffres: cegeri tofu gyda thwmplenni Tseiniaidd, bolognes fegan gyda stwnsh garlleg a menyn a brecwast wedi ffrio gyda guacamole ffres. Mae’n wych i fod yn ôl yn fy nghegi