Mae’r lladdfa yn Gaza yn creu tensiynau dwfn yn y byd gwleidyddol ledled y byd, gan gynnwys gwledydd Prydain. Ac mae’r rheiny’n densiynau peryglus.

Un perygl ydi’r cynnydd mewn hiliaeth – yn erbyn Iddewon cyffredin, yn sicr, ond hefyd yn erbyn Mwslemiaid yn gyffredinol hefyd. Mae geiriau hiliol yn atgas ond mae gweithredoedd yn bwysicach fyth.