Dwi’n deffro ynghanol y nos yn ei gweld hi.

Yr un freuddwyd, fel arfer. Weithiau, mae’r manylion yn wahanol, y tywydd o’i chwmpas neu’r tir dan ei thraed. Ond yr un fath ydi hi, ei symudiadau, ei hwyneb. Atgof ydi ‘mreuddwyd, hanner munud ddigwyddodd bron i ugain mlynedd yn ôl sy’n cael ei ail-fyw dro ar ôl tro ar ôl tro yn fy meddwl.

Mae o’n dechrau teimlo fel hunllef.