Yma ar nos Sul, dwi’n gweld y lluniau a’r fideos sy’n dangos i ni fod antur fyrbwyll y Deyrnas Unedig a’r Unol Daleithiau yn Affganistan bellach yn dirwyn i ben, yn golled drom a drudfawr. Ugain mlynedd wedi’r ymgyrchoedd cyntaf yn y wlad – triliynau o bunnoedd a channoedd o filoedd o fywydau’n ddiweddarach – mae’r arbrawf gwyllt yn dod i ben mewn aflwyddiant. Mae’r palas arlywyddol wedi’i feddiannu a’r maes awyr ar dân. Ar ôl cymaint o drybini, cymaint o golled, a chymaint o ymdrech nid gan luo