Fe dwîtiodd trydarwr o’r enw Arwyn fap o’r “Fro Gymraeg” pa ddiwrnod.

Map oedd e o Gymru gyfan.

Ac roedd yn llygad ei le.

Mae’n hen hen bryd i ni newid ein meddylfryd o ran ble mae cadarnle’r Gymraeg, ble mae ei thiriogaeth naturiol, ym mha ardaloedd mae angen ei gwarchod.