Y cwestiwn mawr gwleidyddol ar y funud ydi hwn: be ddaw allan o boced flaen y cangarŵ?

Mae yna dipyn o ddadlau am y cytundeb masnach-rydd tebygol rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia ond efallai nad hwnnw, ynddo’i hun, ydi’r broblem go-iawn.

Anghytuno y mae pobol am bwysigrwydd y cytundeb, yn enwedig o safbwynt ffermio. Marchnadoedd yn Asia fydd targed ffermwyr Awstralia, medden nhw a’u llywodraeth, felly fydd yna fawr o achos pryder i’n cynhyrchwyr cig oen a chig eidion ni.