Mae’n siŵr ei bod hi wedi dod yn weddol amlwg i ddarllenwyr y golofn hon dros y flwyddyn a mwy ddiwetha’ bo’ ’da fi rhyw fath o garwriaeth gyda Ffrainc. Dw i ’di byw ’na am fwy nag un cyfnod ac – yn enwedig ar ôl hel meddyliau dros y pandemig ofnadw ’ma – dw i’n eitha’ siŵr yr ewn ni i fyw ’na eto rwbryd.