Er fy mod i’n treulio rhan helaeth o’r flwyddyn yn y Gogledd, yng Nghaerdydd dw i gan fwyaf. Fesul un mae llawer o’m ffrindiau wedi dychwelyd at fro eu magu, ond dw i heb eto. Bu’n fwriad gen i ers sbel, ac wrth i fi fynd yn hŷn, tyfu mae’r llais yn fy ngalw yn ôl. Heb fod eisio cwyno, dydi hi ddim yn hawdd. Dwn i ddim faint o weithiau imi weld y tŷ delfrydol, ond iddo gael ei werthu’n syth, heb imi allu dod fyny i hyd yn oed edrych arno. Ac mae prisiau tai ar y funud ond yn gwneud pethau yn fwy