Wrth gwrs, mae o’n wahanol i ni.

Tŷ Nain a Taid oedd o. Dwi’n eu cofio nhw yma, Taid yn ei dŷ gwydr yn y fan lle mae’r decking rŵan, a Nain yn taenu ei chariad drwy’r tŷ efo oglau bara brith a chinio rhost. Weithiau, pan dwi’n cyrraedd y tŷ ar ôl peidio bod yma am fisoedd, dwi’n meddwl ’mod i’n clywed yr union arogl yna, fel tasa’u hysbrydion nhw’n byw yma pan mae’r tŷ yn wag.