Fel llawer ohonom, dwi’n ceisio fy ngorau i fod yn right on ar achosion y foment: darllen y llyfrau iawn, boicotio’r siopau cywir, gwirfoddoli, llythyra. Dwi’n codi llais pan fo’n briodol, gwrando ar adegau eraill. Ond mae ymgyrchu confensiynol yn fy mlino. S’gen i ddim mynedd eistedd trwy gyfarfodydd hirfaith, ma’ areithiau yn fy ngwneud yn ddiamynedd, a thorfeydd a gorymdeithiau yn creu gorbryder difrifol sy’n fy mharlysu.