Mae rhai o gefnogwyr Uwchgynghrair Lloegr yn hoffi bychanu cynghreiriau gweddill Ewrop gan gyfeirio atyn nhw fel “Cynghreiriau’r Ffermwyr”. Yn ôl rhai, mae’r cynghreiriau yma yn hawdd i’w hennill, gyda’r un un clybiau yn fuddugol bob blwyddyn. Wel mae’n wir fod Bayern München eisoes wedi gorffen ar y brig yn yr Almaen ers rhai wythnosau, ond mae pethau wedi bod yn wahanol o gwmpas y cyfandir.