Wel, y siom! Wedi clywed merch ddeunaw oed ar y radio yn dweud bod ‘ei bywyd hi’n ruined’ oherwydd  cymhlethdod y canlyniadau, a thro pedol y llywodraeth ar y mater.

Ruined’? feddyliais. Mae e’n ddim o gymharu â fy siom i. Pa werth fy mhump lefel O a fy llond whilber o CSE’s nawr? (Mae’r CSE mor ddiwerth erbyn hyn, sdim cymhwyster cyffelyb iddo fe – tu allan i waliau ysgol feithrin.)