Erbyn i chi ddarllen y golofn yma, ar ôl pedair blynedd o arlywyddiaeth ansicr, ymfflamychol wallgo’, fe fydd gan America Arlywydd newydd. Falle.

Mae’n draddodiad fod pob Arlywydd, wrth ymadael, yn rhwyddhau’r ffordd i’r nesa’, yn llongyfarch a chroesawu ei olynydd gyda gair o gyngor falle.

Ond dyw Donald ddim yn mynd i gydnabod fod e wedi colli, hyd yn oed pan fydd y removal vans yn troi lan wrth y gât.