Er mwyn dygymod gyda’r ansicrwydd ry’n ni’n byw ynddo ar y foment, ga i gyflwyno ffordd ymlaen: ‘Dewidod’… neu, pan fydda i wedi gwerthu’r syniad i Boris – ‘The Rule of Dewi’.

‘Nid y piggin gath yna eto?!’ fe glywa’ i chi’n udo mewn undod, ddarllenwyr ffyddlon. Wel, mewn ffordd, ie.

Mi’r oedd yna gyfnod pan oedd dim cath gyda ni, wedyn roedd gyda ni gath, ac yna doedd dim. Wedyn ddaeth e’ yn ei ôl, cyn diflannu eto. Ydych chi’n deall be’ sgen i?