Dw i wastad wedi meddwl bod e twtsh yn od bo’ pobol yn cwyno gymaint am ddiffyg sylw i Gymru yn y wasg Brydeinig. Dw i ’di neud e fy hun wrth gwrs – ‘What about Wales?!’ dw i ’di wylefain wrth ymateb i ryw erthygl am wleidyddiaeth gan ryw bapur Saesnig.
Ma’n ddigon naturiol, wrth gwrs… d’yw e ddim yn neis cael eich anwybyddu, dw i’n cofio hynny o ddisgos ysgol! Ond ma ’na rywbeth od am y gri: begian i gael ein trafod gan gyfryngau gwlad arall. Begian i gael gweld ein gwlad yn hun drwy lygaid rhywun o wlad arall… i be?
Tarodd hyn fi yn ystod yr ymateb i glo dros dro Cymru’r wythnos ddiwetha’. Do, fe gafodd Cymru sylw, ond rhyw agwedd ‘look at them!’ oedd i bob darn. Fel llith Dan Hodges yn y Daily Mail… “Dan Hodges braves a visit to Wales… A land of fear and twitching curtains”, fel se fe’n croesi wal Berlin yn y 1960au.
Erthygl yn portreadu hicks drwgdybus oedd hi, wedi’i sgrifennu o safbwynt ‘wel, yn amlwg, ni’n gwbod yn well na rhein’. Fydden i ddim yn awgrymu bo’ chi’n darllen hi, er bo’ ’na bleser o ddetectio ble ro’dd e wedi gorfod ei golygu hi ar ôl i Lywodraeth Lloegr wneud tro pedol a dilyn esiampl Cymru.
Beth yden ni’n disgwyl pan ni’n darllen dadansoddiad o’n hunain drwy lygaid eraill? Gewch chi ddim dadansoddiad gwerth ei ddarllen gan rywun sy’n dechre o’r safbwynt bo’ ni’n od.
Dw i wedi meddwl ers tipyn bod y twf o be alwa’ i’n ‘ymdeimlad o bosibilrwydd annibyniaeth’ yn gysylltiedig iawn â’r cyfryngau cymdeithasol. O’r blaen, fyddech chi’n darllen ryw hurtni Prydeinig ac yn cwyno am y peth i ambell gyfaill – nawr fe allwch chi dynnu sylw bobl niferus at y peth… hyd yn oed os yw hynny’n gyfyngedig i alw rhywun yn idiot.
Roedd erthyglau o’r fath yn arfer cael eu cyflwyno bron fel mater o ffaith – erbyn hyn, o leia’ ma nhw’n cyrraedd llygaid tipyn ohonon ni gyda’r rhybudd bo’ nhw’n nonsens. A ma ’na newid wedi bod yn y bobl sy’n tynnu sylw at y nonsens ar y cyfryngau cymdeithasol hefyd – mwy o amrywiaeth; o ran oed, safbwynt, cefndir a lleoliad.
Felly d’yw twf diweddar YesCymru’n ddim syndod. Ro’n nhw wrthi’n trydar nifer yr aelodau’r wythnos hon, gyda’r nifer yn dringo o hyd nes bo’ fi’n meddwl bo’ nhw am barhau nes bo nhw’n cyrraedd mwyafrif o blaid annibyniaeth (12,000 ar adeg mynd i’r wasg).
Wrth gwrs, ro’dd rhai’n awyddus iawn i bwyntio mas bod hyn yn bitw i gymharu â’r nifer sydd yn/wedi/mynd i bleidleisio dros Blaid Cymru. Ond fe bwyntiodd Ifan Morgan Jones mas mai’r gwahaniaeth rhwng aelodau a phleidleisiau yw bod aelodau’n talu.
Ac ma’ hynna’n wir ym mhob maes: er enghraifft ma’r cyfryngau wedi symud nawr i fod yn subscription-based p’un a yden ni’n lico hynny ai peidio.
Mae’r papurau newydd yn mynd i’r model hwnnw un ar ôl y llall – ac ma’ nifer o’r rhai sy’n ymwrthod â’r model tanysgrifiadau yn cynhyrchu gwefannau sy’ mor anodd eu darllen oherwydd gofynion gwneud arian, nad yw hi, bron, werth y drafferth.
Ma’ ’da’r rhan fwya ohonon ni danysgrifiadau teledu – Netflix, Amazon, Sky… (ges i ffit o weld faint dw i bellach yn ei dalu ers locdown!) Dyna’r ffordd ma’r cyfryngau’n mynd.
Ma’r cwynion am y wasg Gymreig yn debyg bob tro – dim digon o ddadansoddi, ymchwilio… ond fel gydag ymgyrchu gwleidyddol, mae’r pethau yma’n anodd heb arian.
Ry’n ni yma yn Golwg wedi gweld naid o rhyw 10% yn tanysgrifio ers lansio’r cylchgrawn ar y we, Golwg+. Mi fydde mwy yn helpu ni wneud mwy – ac fe fydde fe lan i ni, wedyn, i wneud yn siŵr bo chi ddim yn manteisio ar y cynnig i ‘ganslo unrhyw bryd’!
Rhowch gynnig, achos, yn y pen draw, d’yw cwyno am y sylw ni’n cal gan y Daily Mail ddim am wneud owns o wahaniaeth i’r ffordd ry’n ni, ein hunain, yn trin a thrafod Cymru.