Mae’r twf anferthol yn y gefnogaeth i YesCymru tros y penwythnos wedi bod yn “siom ar yr ochr orau”, yn ôl Cadeirydd y mudiad annibyniaeth.

Wrth i Golwg fynd i’r wasg roedd nifer yr aelodau wedi cynyddu i 12,000, ac roedd y nifer wedi bod yn tyfu a thyfu am bedwar diwrnod yn olynol.