Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn “andros o adeiladol” wrth graffu ar Lywodraeth Cymru yn ystod yr argyfwng coronafeirws, yn ôl Dirprwy Gadeirydd y blaid.

Ers dechrau’r pandemig mae’r Torïaid yng Nghymru wedi bod yn cynnig beirniadaeth gyson o fesurau’r Llywodraeth.

Pan gynghorwyd y cyhoedd i ‘aros yn lleol’ – cyngor i beidio teithio’n bellach na phum milltir o’ch tŷ – cafodd ei labelu’n “rheol greulon” gan y Ceidwadwyr.