Mae Cadeirydd S4C wedi datgelu wrth Golwg mai’r hyn sy’n ei wylltio fwyaf, o safbwynt dyfodol yr iaith, yw’r “garfan o bobol yng Nghymru – dosbarth canol, addysgedig – sydd wedi ceisio gwthio eu syniadau personol nhw ynglŷn â chywirdeb ieithyddol, ar bawb arall.”
Daeth Rhodri Williams yn Gadeirydd S4C ym mis Ebrill eleni, ond ar droad y ganrif bu yn Gadeirydd Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhwng 1999 a 2004.
A chyn hynny, yn y 1990au, roedd yn aelod o’r Bwrdd wrth iddyn nhw sefydlu Mentrau Iaith ledled y wlad, er mwyn ceisio diogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol.
Ac wrth drafod yr ymdrechion i achub yr iaith, mae ganddo farn bendant ar bobol sy’n beirniadu safon iaith pobol eraill.
“Yng nghyd-destun y Gymraeg a’r pethau sy’n ymwneud â’r Gymraeg, beth sy’n fy ngwylltio i yw pobol yn siarad ar eu cyfer, gan anwybyddu unrhyw fath o ymchwil neu farn arbenigol ynglŷn â chywirdeb ieithyddol,” meddai Rhodri Williams.
“Mae o wedi bod yn obsesiwn gen i erioed, i ddweud y gwir.”
Mae Rhodri Williams yn cyfeirio at waith yr academydd Dr David Crystal, arbenigwr “byd-eang, efallai’r arbenigwr pennaf, ar ddwyieithrwydd.”
“Rhoddodd e gyngor i fi pan oeddwn i yn y Bwrdd Iaith, yn dweud mai’r peth olaf i wneud gydag iaith yw trïo gorfodi pobol i siarad ryw fath o safon uchel ohoni hi.
“Achos yr effaith mae e’n cael yw gelyniaethu pobol sydd ddim yn meddu ar y safon yna o iaith.
“Ac mae yna garfan o bobol yng Nghymru – dosbarth canol, addysgiedig – sydd wedi ceisio gwthio eu syniadau personol nhw ynglŷn â chywirdeb ieithyddol ar bawb arall.
“Ac mae’r niwed maen nhw wedi ei wneud yn aruthrol.
“A does yna ddim iot o dystiolaeth, o ymchwil, o unrhyw fath o ddadl ddeallusol tu ôl i’r hyn maen nhw’n ddweud. Maen nhw jest yn mynegi barn.
“Ond os ydyn nhw yn edrych ar y dystiolaeth, bydden nhw yn sylweddoli [eu bod yn gwneud niwed aruthrol]… ac mae’r rhain yn bobol sy’n poeni am y Gymraeg.
“Maen nhw yn ymrwymedig i’r Gymraeg!
“Ond tydyn nhw ddim yn gallu gweld tu hwnt i’w rhagfarnau personol.”
- Bu Golwg yn holi Rhodri Williams yr wythnos hon.