Mae Cadeirydd S4C yn 63 oed ac yn byw ym mhentref Llanedi yn Sir Gaerfyrddin. Fe astudiodd Athroniaeth yn y coleg yn Aberystwyth cyn treulio cyfnod dan glo wrth ymgyrchu tros sefydlu Sianel Gymraeg…

Pam oeddech chi’n awyddus i fod yn Gadeirydd S4C?

Rydw i wedi ymwneud ag S4C ers cyn i’r gwasanaeth gael ei sefydlu, ac o ganlyniad wedi teimlo erioed fod e’n un pwysig oherwydd y cyfraniad gall e wneud tuag at annog pobol i wneud defnydd o’r iaith Gymraeg.