Cyfuno’r hen a’r newydd oedd y gamp i’r ddau sydd wedi sefydlu cwmni Jin Talog yn hen ffermdy Rhyd-y-Garreg Ddu, yn Nhalog, Caerfyrddin…

 

Dod ’nôl i Gymru

Anthony Rees: Roedden ni’n byw yn Llundain am flynyddoedd ac wedi prynu bwthyn bach yng Nglan-y-fferi [ger Caerfyrddin]. Ond bob nos Sul doedden ni ddim moyn mynd nôl i Lundain, a wnaethon ni benderfynu symud nôl i Gymru. Dw i’n dod o Lanelli yn wreiddiol ac mae teulu David yn byw yng Nghaerdydd. Roedd y bwthyn yng Nglan y Fferi yn rhy fach a dweud y gwir, ac roedden ni eisiau rhywbeth mwy modern. Y bwriad oedd prynu tir er mwyn adeiladu tŷ newydd sbon, ond roedd yn amhosib ffeindio plot oedd yn addas. Felly dyma ni’n dechrau chwilio am dŷ oedd wedi’i adeiladu’n barod ac roedden ni moyn byw yn rhywle gyda chymuned gref.

David Thomas: Hwn oedd y tŷ cyntaf wnaethon ni ddod i weld gyda’r asiant tai. Y syniad oedd dod yma i weld sut fydden ni’n teimlo. Ond ar ôl gyrru i’r buarth, heb hyd yn oed mynd mewn i’r tŷ, wnes i ddweud wrth Anthony: “Mae’n rhaid i ni brynu’r tŷ yma”. Roedd e fel cyrraedd byd gwahanol, fel bod gweddill y byd ddim yn bodoli. Wnaethon ni brynu’r tŷ ym mis Hydref 2015 a symud mewn ym mis Ebrill 2016.

Anthony Rees: Yn Llundain roedd gynnon ni batio bach a fan hyn mae gyda ni saith erw! Mae gynnon ni ddefaid, ci, ieir a gwyddau – mae’n cadw ni’n brysur.

 

Estyniad modern

Anthony Rees: Adeiladwyd y tŷ gan Jacob Jones, ffermwr lleol, yn yr 1850au ac mae’r adeilad yn rhestredig Gradd II. Doedd Rhyd-y-Garreg Ddu heb gael ei foderneiddio o gwbl. Roedd popeth yn wreiddiol, sy’n anarferol iawn y dyddiau hyn. Ond rhaid oedd gwneud popeth – y gegin, y stafelloedd ymolchi, yr electrics, gwres canolog… Dw i’n mwynhau prosiect adeiladu – ond i David, dyna ydy ei hunllef gwaetha’. Sa i’n mynd i wneud e byth eto!

David Thomas: Roedden ni wedi penodi pensaer, Chris Loyn o Benarth, i ddylunio tŷ newydd sbon ultra modern yn wreiddiol. Ond ar ôl prynu’r tŷ yma, dyma ni’n gofyn iddo fe ddylunio’r estyniad. Ond fe gymerodd e ddwy flynedd i ni gael caniatâd cynllunio ar gyfer yr estyniad, a blwyddyn i’w adeiladu.

Anthony Rees: Mae gan y tŷ waliau trwchus iawn, ac roedd e’n dywyll. Ond nawr ni wedi agor e lan ac mae’r golau’n llifo mewn. Mae golygfeydd hyfryd dros y caeau, a chi’n gallu eistedd ar y balconi efo G&T a gwylio’r machlud wrth edrych dros y cwm.

David Thomas: Dyma’n hoff stafell ni – mae’n dod a’r tu fas tu mewn.

 

Yr hen a’r newydd

Anthony Rees: Yr her oedd sut i gymysgu’r hen a’r newydd, felly ry’n ni wedi cadw cymeriad pensaernïol y tŷ a’r nodweddion gwreiddiol. Doedden ni ddim moyn prynu hen dŷ a gwneud e mas fel tŷ newydd. Felly ry’n ni wedi parchu beth oedd yma, ond ni ddim wedi ei droi’n amgueddfa. Mae’r rhan fwyaf o’r celfi’n fwy modern – ry’n ni wedi cymysgu popeth lan. Mae pethau o’r 1960au nesa’ i bethau modern ni wedi prynu ar eBay neu Ikea, cadair oedd yn anrheg briodas fy rhieni yn y 1960au, hen gist Mam-gu a Chrochenwaith Llanelli. Does dim rule book.

David Thomas: Rydan ni wedi comisiynu cadeiriau gan Chris Williams sy’n byw yn lleol ac sydd wedi ail-ddechrau’r traddodiad o wneud cadeiriau cefn ffyn. Mae lot o waith ynddyn nhw. Roedd llawer o baneli gwydr yn y tŷ hefyd oedd yn dyddio o’r 1970au ac roedden ni eisiau newid nhw. Felly mae Simon Howard o Landeilo, sy’n gweithio efo gwydr, wedi creu cyfres o baneli gwydr i ni, sy’n eitha’ cyfoes.

 

Stori tu ôl i bopeth

Anthony Rees: Mae yna stori tu ôl i bopeth yn y tŷ yma. Ry’n ni’n hoffi teithio ac wedi bod i dros gant o wledydd – De America, gogledd Corea, Iran, Japan, yr Antarctig, Awstralia, Affrica… Ry’n ni wedi casglu posteri o arddangosfeydd ni wedi gweld, crochenwaith, beth bynnag sy’n gallu mynd yn y siwtces!

David Thomas: Un o’n hoff bethau ni i’w casglu ydy Crochenwaith Staffordshire o’r 19eg ganrif, ac mae casgliad o rai sy’n datgelu hanes Cymru. Mae gyda ni hen fob watch holder, sy’n dangos stori Gelert, sy’n anarferol iawn. Mae stamp personol iawn ar y tŷ.

Y gegin

Anthony Rees: Mae’r ddau ohonon ni’n dwli ar goginio felly roedden ni moyn cael island unit mawr yn y gegin. Mae’r Aga yn hyfryd hefyd, ac yn cynhesu’r tŷ a dyna le mae’r ci yn hoffi cysgu. Ein hoff siop ni ydy siop ac amgueddfa David Mellor yn Swydd Derby. Mae’n gwerthu popeth sydd angen ar gyfer y gegin. Mae’n drysor cudd!

 

Cyngor

Anthony Rees: Peidiwch â gwneud e! Prynwch dŷ newydd sbon – jôc! Mae David yn casáu prosiectau adeiladu, ond dw i wrth fy modd. Felly cyn dechrau prosiect, sicrhewch bo chi’n ymwybodol o’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud, a thrïwch gadw at gyllideb. Haws dweud na gwneud!

David Thomas: Peidiwch â chreu tŷ arddangos, ond gwnewch gartref sy’n ymarferol ac sy’n gweddu’r ffordd ry’ch chi’n byw.