Ers dechrau’r pandemig, dydi llawer o wleidyddion ddim wedi deall nad brwydr rhwng iechyd, lles ac economi ydi hon. Nid dewis ydi o chwaith rhwng iechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae’r cyfan ynghlwm.

Dyna pam, yn y diwedd, y bydd rhaid ailddysgu byw a delio â’r afiechyd heb i hynny gau popeth arall a chreu problemau newydd. Ond tan y byddwn ni wedi dysgu’r gwersi a than y bydd llywodraethau’n gweithredu’n gyson yn erbyn y feirws, mi fydd rhaid cael cyfnodau clo.