Mae yna gryn dipyn o “annibyniaeth” yng Nghymru yn barod, yn ôl y Prif Weinidog, Mark Drakeford.

Mae Llywodraeth San Steffan bellach wedi cyflwyno cyfnod clo yn Lloegr, ac wedi dweud y byddan nhw’n ymestyn y cynllun ffyrlo i gyd-fynd â’r cam.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn am rywbeth tebyg pan ddechreuodd ein clo dros dro ni fis diwetha’ – ond mi wrthodwyd hynny, ac felly mae’r sefyllfa wedi gadael blas chwerw.