Mae Lloyd Scott wedi teithio i ddau begwn y byd a rhedeg marathon rownd Everest… ac yn fwyaf diweddar, trip i ben yr Wyddfa… ond mewn siwt blymio sy’n pwyso naw stôn!

Mae’r gŵr 59 oed yn hanu o Essex, yn gyn-bêldroediwr proffesiynol, ac yn gyn-ddyn tân.

O ran ei yrfa yn bêldroediwr, fe gafodd ei arwyddo i glwb Leyton Orient yn 1978. Mae hefyd wedi chwarae i Watford, Blackpool, a Dagenham.

Daeth tro ar fyd yn y 1980au pan fu iddo ddarganfod bod ganddo lewcemia.