Chwalwyd grŵp Plaid Brexit yn Senedd Cymru yn sgil anghydfod tros ddatganoli, yn ôl un o’r AoSau wnaeth adael i ffurfio ‘Grŵp y Gynghrair Annibynnol tros Ddiwygio’.

Caroline Jones yw arweinydd y grŵp newydd yma, ac mae hi wedi dweud wrth Golwg eu bod yn parhau “ar delerau ardderchog” gydag arweinwyr Plaid Brexit yn Lloegr.